Gwasanaethau Cymraeg GIG Priory
Mae Priory Healthcare yn cynnig cefnogaeth i amrywiaeth eang o gleifion yng Nghymru, ar draws 5 ysbyty a 7 o gartrefi cymunedol â gofal uwch. Mae hyn yn cynnwys
- Cyfleusterau diogel canolig ac isel
- Cyfleusterau dan glo
- Gwasanaethau ailsefydlu a gwella
- uned sy'n arbenigo mewn niwro-ailsefydlu, clefyd Huntington ac ABI
Bydd pob claf yn cael rhaglenn gofal personol i gynnig y cyfle gorau i ddatblygu’n bersonol a gwneud adferiad.
unedau diogel canolig (MSU)
- Mae’r cyfleuster hwn yn darparu gwelyau i gleifion gwrywaidd a benywaidd, ac mae’n cynnig gwasanaeth anhwylder personoliaeth i ddynion
- Mae'r llwybr gofal llawn a gynigir yn caniatáu i gleifion symud ymlaen i gam nesaf eu triniaeth mewn modd amserol
- Yma, canolbwyntir ar ofal iechyd corfforol ac mae gwasanaeth meddyg teulu ar gael dri diwrnod yrwythnos, ac ategir hynny gan dîm iechyd corfforol
Gwasanaethau diogel isel (LSU)
- Mae’r cyfleuster hwn yn darparu gwelyau i gleifion gwrywaidd, ac mae’n cynnwys gwasanaeth ynghylch anableddau dysgu i’r sawl sydd dros 50 mlwydd oed
- Mae'r llwybr gofal llawn a gynigir yn caniatáu i gleifion symud ymlaen i gam nesaf eu triniaeth mewn modd amserol
- Yma, canolbwyntir ar ofal iechyd corfforol ac mae gwasanaeth meddyg teulu ar gael dri diwrnod yrwythnos, ac ategir hynny gan dîm iechyd corfforol
- Mae hwn yn ysbyty diogel isel sy’n darparu model gofal bioseicogymdeithasol i gleifion gwrywaidd a benywaidd sydd ag anhwylderau meddyliol cymhleth, yn cynnwys anhwylder personoliaeth
- Rydym yn cynnig llwybr hynod strwythuredig i ryddhau cleifion yn ôl i’r gymuned
- Dyma wasanaeth diogel isel ar gyfer dynion sydd ag anhwylderau iechyd meddwl a phersonoliaeth parhaus
- Disgwyliwn gyfranogiad parhaus ac ymgysylltu â gwasanaethau lleol ym mhob cam o lwybr y claf. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â lleihau risg, ailsefydlu, integreiddio cymdeithasol a chynllunio i ryddhau cleifion
- Mae'n proses cynllunio gofal 12 wythnos yn cynorthwyo cleifion i flaenoriaethu eu nodau a llunio cynlluniau triniaeth i ddiwallu eu hanghenion a'u hadferiad unigol
Ailsefydlu ac adfer
- Mae hwn yn wasanaeth dan glo ar gyfer cleifion gwyrywaidd ac mae ganddo lwybr mewnol i gychwyn y broses cam-i-lawr
- Mae’n gweithredu'r Coleg Adfer, a Chymorth ynghylch Ymddygiad Cadarnhaol i sicrhau mwy o annibyniaeth i gleifion
- Tîm amlddisgyblaethol (MDT) cryf sy’n rhoi pwyslais ar adferiad, a lleoliad gwledig, therapiwtig, er ei fod ar gyrion Malvern, sy’n darparu mynediad hawdd i gyfleusterau cymunedol
- Mae Ward Woodlands yn yr ysbyty hwn yn wasanaeth ailsefydlu agored sy’n cynnig 4 gwely i ddynion, ac mae’n darparu llwybr gofal llawn o wasanaethau diogel i rai agored
- Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu i leihau y cyfnod a dreulir mewn LSU, ac mae’n darparu lleoliad agored, ac ar yr un pryd, mae cymorth ar gael gan nifer fawr o wasanaethau diogel sydd ar yr un safle
- Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu ailsefydlu a chymorth i’r sawl sydd efallai yn teimlo fod y cam i lawr o LSU i’r gymuned yn rhy heriol, yn enwedig ar ôl treulio nifer o flynyddoedd mewn gwasanaethau diogel
- Gwasanaeth i gleifion benywaidd sydd ag anableddau dysgu ac sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd iechyd meddwl.
- Gall cleifion fynychu amryw o weithgareddau yn y gymuned leol yn ogystal â rhaglenni addysgol neu waith.
- Mae llwybr gofal yn hygyrch, a cheir bynglo ar y safle i helpu i baratoi cleifion i ddychwelyd i’r gymuned
Cartrefi cymunedol gwell
- Mae’r cyfleuster hwn yn cynnig tîm staff sefydlog a phrofiadol, wedi'i hyfforddi'n dda, sy'n defnyddio ymagwedd unigol wrth gynnal ansawdd bywyd i’n cleifion benywaidd
- Mae wedi'i leoli mewn ardal breswyl dawel, taith gerdded bum munud o dref fach y Fenni, Sir Fynwy, sy’n caniatáu mynediad at gyfleusterau lleol
- Mae hwn yn wasanaeth i gleifion gwrywaidd a benywaidd, ac mae’n daparu MDT llawn a thîm staff profiadol a sefydlog sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol ag ymagwedd sy'n canolbwyntio ar anghenion unigolion i gynorthwyo unigolion i gyflawni nodau ac ennill annibyniaeth
- Mae’n cynnig anecs sy'n caniatáu i unigolion ennill cymaint o annibyniaeth ag y bo modd a gallu cael cymorth pan fydd angen hynny hefyd
- Cynorthwyir cleifion gan MDT effeithiol sydd â phrofiad o ailsefydlu, adfer a gofalu am gleifion sydd ag anghenion cymleth
- Mae amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gael gerllaw y cartref, ac mae wedi'i leoli'n ddelfrydol ar gyfer ailintegreiddio diogel, strwythuredig a graddol i'r gymuned leol
- Arweinir y cyfleuster hwn gan MDT llawn â thîm sefydlog a phrofiadol sy'n cynorthwyo cleifion pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd anodd ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau datrys problemau, gan eu helpu i gael rhagor o annibyniaeth a chynhwysiad cymdeithasol, o fewn y gymuned
- Bydd cleifion yn mwynhau amserlen amrywiol o weithgareddau o'u dewis eu hunain
- Saif y cartref hwn mewn ardal breswyl dawel yng Nghaerdydd sydd ag amrywiaeth eang o gyfleusterau gerllaw, ac mae wedi'i leoli'n ddelfrydol ar gyfer ailintegreiddio diogel, strwythuredig a graddol i'r gymuned leol
- Mae’r cyfleuster yn cynnwys dŷ pâr, drws nesaf i'w gilydd, sy’n galluogi mwy o hyblygrwydd yn y grŵp cleifion
- Mae’r cyfleuster hwn yn arbenigo mewn darparu llwybr gofal i adael gwasanaethau diogel, ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu, ac mae ganddo hanes llwyddiannus o symud pobl i leoliadau ble cynigir llai o gymorth yn y gymuned
- Caiff ei arwain gan MDT sydd â phrofiad o ailsefydlu, adfer a gofalu am bobl sydd ag anghenion cymhleth. Adolygir gofal cleifion bob chwe wythnos yng nghyfarfodydd yr MDT ac yn yr adolygiadau o ymagweddau rhaglenni gofal a gynhelir bob chwe mis yn ystod y rhaglenni hynny
Neuro-adsefydlu
- Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu rhaglenni niwro-ailsefydlu sy'n canolbwyntio ar anghenion unigolion, a chânt eu cynllunio yn unol â difrifoldeb a chymhlethdod niwro-anabledd penodol unigolyn.
- Mae hyn yn cynnwys anafiadau trawmatig i’r ymennydd (TBI), niwed a gafwyd i'r ymennydd (ABI) neu gyflyrau niwro-ddirywiol megis, clefyd niwronau motor, clefyd Huntington neu sglerosis ymledol
- Mae’n cydnabod bod teuluoedd yn allweddol i sicrhau lles y claf ac fe'u hanogir i wneud cyfraniad allweddol at osod nodau a chynllunio gofal
Cysylltwch â ni
I wneud atgyfeiriad neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni heddiw ar 0800 090 1356. Fel arall, gallwch e-bostio: prioryenquiries@nhs.net
Find a Treatment Location
To make a placement
Find a treatment location